Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2018
Amser:
08.30 -
08.57
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai dadl ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn yr hydref, yn ystod amser y llywodraeth.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 –
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
Dydd Mercher 26 Medi 2018 –
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am ei farn ar yr amserlen ac i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf ym mis Medi.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y papur.
Biliau Aelodau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd hi o blaid cynnal pleidlais arall ar Filiau Aelodau nes ei bod yn fodlon na fyddai'n ymyrryd â llwyth gwaith deddfwriaethol y Cynulliad, gan gynnwys Biliau anllywodraethol sydd eisoes ar y gweill, a materion yn codi o Brexit, ond y byddai'n parhau i'w adolygu. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur yn nodi amserlenni, dyddiadau allweddol a chyfnodau o bwysau ar gyfer Biliau Aelodau.
Enwebiad ar gyfer Comisiynydd y Cynulliad
Dywedodd Gareth Bennett wrth y Pwyllgor Busnes yr hoffai UKIP ail-enwebu Neil Hamilton fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Eglurodd y Llywydd, y byddai'n rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig i'r Cynulliad ei ystyried er mwyn i'r enwebiad fynd rhagddo.
Nododd y Rheolwyr Busnes nad oedd ganddynt unrhyw reswm i feddwl y byddai eu haelodau'n pleidleisio'n wahanol pe bai cynnig arall i enwebu Neil Hamilton yn cael ei gyflwyno, ac felly cytunodd nad oedd unrhyw ddiben i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig o'r fath.
Gofynnodd y Llywydd i Grŵp UKIP ystyried y drafodaeth hon ac a ellid cyflwyno enwebiad amgen a fyddai'n cael cefnogaeth y Cynulliad. Nododd y Llywydd na fyddai gan y Pwyllgor Busnes unrhyw reswm i beidio â chyflwyno cynnig yn enwebu Aelod arall o grŵp UKIP i'r Cynulliad ei ystyried.